Mae Hyfforddiant Groundwork yn rhan o Groundwork Gogledd Cymru, elusen sy’n gweithio i wella’r amgylchedd naturiol a’r mannau lle mae pobl yn byw, gan wella llesiant a chyfleoedd tra’n ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Mae ein hyfforddiant yn rhan o’r genhadaeth ehangach hon. Nid yw’n wasanaeth masnachol ar ei ben ei hun, yn hytrach mae’n rhan o strategaeth glir i gryfhau cymunedau, meithrin gwydnwch, a chreu effaith gadarnhaol hirdymor ledled Gogledd Cymru.

Mae’r incwm sy’n cael ei gynhyrchu drwy hyfforddiant masnachol yn cael ei ailfuddsoddi mewn rhaglenni cymunedol, gan olygu bod sefydliadau yn derbyn hyfforddiant achrededig o ansawdd uchel ac yn cyfrannu hefyd at fudd cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae ein dull gweithredu yn canolbwyntio ar gryfhau cymhwysedd yn y gweithle, meithrin hyder unigolion, a chefnogi sefydliadau mwy diogel a gwydn. Ar yr un pryd, rydym yn gweithredu’n gyfrifol o fewn fframweithiau achredu a llywodraethu cydnabyddedig, gan sicrhau cyflawniad, cydymffurfedd, ac atebolrwydd proffesiynol.

Pan fyddwch yn comisiynu gwaith hyfforddiant gyda Groundwork, rydych yn bodloni eich rhwymedigaethau rheoleiddiol, yn buddsoddi yn natblygiad y gweithlu, ac yn cyd-fynd ag elusen sy’n cael ei harwain gan werthoedd ac sydd wedi ymrwymo i lesiant cymunedol, cyfrifoldeb amgylcheddol, ac effaith leol hirdymor.

Our Values and Strategy
Our Values
Our Strategy